'Roeddan ni i gyd yn meddwl y byd o Paul'

Cafodd corff Paul Hughes, 35, ei ganfod mewn adfail yn Llangefni fis diwethaf, ac yntau wedi bod yn cysgu ar y strydoedd am rai wythnosau.

Mae ei frawd, Matthew, yn dweud fod y teulu yn parhau i chwilio am atebion ynghylch amgylchiadau ei farwolaeth.

Daw hynny wrth i elusennau yn Ynys Môn rybuddio y gallai diffyg llety argyfwng i bobl ddigartref fod yn peryglu bywydau mewn ardaloedd gwledig.