'Angen gwell cefnogaeth ar bobl trawsryweddol yng Nghymru'
Chwe blynedd yn ôl fe wnaeth Stacy Winson ddod allan fel person trawsryweddol - ond mae hi'n dal ar restr aros ar gyfer llawdriniaeth.
Mae hi'n dweud bod angen gwell cefnogaeth ar bobl draws yng Nghymru, yn sgil yr heriau cyson maen nhw'n eu hwynebu.
Daw hynny wedi i ymgyrchwyr Cynghrair Cydraddoldeb Cymru alw ar Lywodraeth Cymru i gamu i'r adwy er mwyn sicrhau bod gwasanaeth arbenigol i bobl draws yn darparu ar gyfer eu hanghenion yn iawn.
Cafodd y gwasanaeth ei sefydlu y llynedd, ond yn sgil oedi i wasanaethau mae rhybudd bod rhai pobl sy'n aros i fynd drwy broses newid rhyw yn rhoi eu bywyd mewn peryg drwy brynu cyffuriau ar y we.