Profiadau Cymry tramor o fesurau coronafeirws

Mae dros 110 o wledydd ledled y byd wedi cadarnhau achosion o coronafeirws bellach, ac mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi labelu gwasgariad yr haint fel "pandemig".

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau hefyd wedi gwahardd pobl o 26 o wledydd Ewropeaidd rhag mynd yno er mwyn ceisio atal yr haint rhag lledu.

Gyda chymaint o sylw'n cael ei roi i'r mater, BBC Cymru fu'n holi Cymry yn yr Unol Daleithiau, Sbaen, yr Emiradau Arabaidd Unedig a Ffrainc am eu profiadau nhw o haint Covid-19.