Datganiad Mark Drakeford ar y cyfyngiadau coronafeirws

Mae'r Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn dweud y dylai pawb "aros gartref" fel rhan o'r ymdrechion i daclo coronafeirws.

Bydd pobl ond yn cael gadael y tŷ ar gyfer i brynu nwyddau hanfodol, ymarfer corff unwaith y dydd, cynnig gofal iechyd, neu fynd i'r gwaith.

Bydd siopau a busnesau sydd ddim yn gwerthu nwyddau hanfodol yn gorfod cau'n syth, ond fe fydd siopau bwyd, fferyllfeydd, meddygfeydd, banciau a swyddfeydd post yn parhau i fod ar agor.