Gadael Periw: 'Dyw'r arwyddion ddim yn dda iawn'
Roedd Ffred a Meinir Ffransis o Lanfihangel-ar-arth ar eu gwyliau ym Mheriw pan benderfynodd y llywodraeth gau ei ffiniau a rhwystro hediadau o'r wlad gyda rhybudd o oriau'n unig ddydd Sul.
Mae nifer o wledydd eraill wedi llwyddo i gludo dros fil o ddinasyddion nôl o Beriw wedi i'r ffiniau gau, yn cynnwys Israel, Ffrainc a'r Almaen. Mae Canada hefyd yn ceisio trefnu hediadau i ddychwelyd eu dinasyddion nhw.
Yn ôl grŵp ymgyrchu newydd sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth am drafferthion y dinasyddion Prydeinig ym Mheriw mae cadarnhad bod o leiaf 633 ohonyn nhw yn gaeth yn y wlad, a phosibilrwydd bod cymaint â 1,000 yno i gyd.