Coronafeirws: Pryder pysgotwyr am ddyfodol y diwydiant

Mae haint coronafeirws wedi effeithio ar bob agwedd o fywyd, ac ar fusnesau ledled y wlad. Un diwydiant sydd yn dioddef gan fod y farchnad wedi crebachu yw pysgota.

Oherwydd bod popeth ar y lan wedi cau, does dim marchnad i'r pysgod a'r cregyn mae'r pysgotwyr yn eu dal.

Dim marchnad, dim incwm, a hynny ar ben y gaeaf mwyaf stormus i'r diwydiant ei wynebu ers 20 mlynedd.

Mae Sion Williams yn pysgota o Borth Colmon ar Benrhyn Llŷn ac fe rannodd ei bryderon am y sefyllfa gyda BBC Cymru Fyw.