Covid-19: Gwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru 'wedi newid'
Mae Dr Eleri Davies o Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud fod staff wedi gorfod addasu wrth ymateb i bandemig coronafeirws.
Daw hyn wrth i'r gwyddonydd sy'n gyfrifol am labordy profi coronafeirws mwya' Cymru ddisgrifio "aberth" ei dîm wrth fynd i'r afael â'r pandemig.
Jonathan Evans sy'n arwain y ganolfan firoleg arbenigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, lle cafodd y prawf cyntaf positif am coronafeirws yng Nghymru ei nodi.
Dywedodd fod staff wedi bod yn gweithio 60 i 70 awr yr wythnos wrth brosesu dros 2,500 o brofion y dydd.