Sut mae busnesau Dyffryn Nantlle'n ymdopi drwy'r pandemig?

Gyda chymunedau ar draws Cymru'n poeni am effaith economaidd y pandemig coronafeirws, mae cymuned Dyffryn Nantlle eisoes wedi cael newyddion drwg.

Mae disgwyl y bydd tua 100 o swyddi'n cael eu colli wrth i brif gyflogwr yr ardal, gwaith prosesu papur Northwood, gau.

Ond sut mae rhai o fusnesau eraill y dyffryn yn ymdopi drwy'r argyfwng?