'Efo popeth sy'n mynd 'mlaen o'n i isio helpu mwy'

Mae Chloe Adams a Nev Sutherland ymhlith y gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn helpu staff a chleifion yn Ysbyty Gwynedd yn ystod y pandemig coronafeirws.

Gyda'r ddau yn segur o'u gwaith fel arall, maen nhw'n esbonio beth wnaeth eu hysgogi nhw i roi help llaw yn ystod yr argyfwng, a'r math o gymorth maen nhw'n ei gynnig.