Cynnig gofal iechyd meddwl 'fel milwyr' i staff y GIG

Mae elusen sy'n rhoi cymorth i aelodau'r lluoedd arfog yn dweud y dylai gweithwyr iechyd fod yn cael cymorth i ddod i delerau gyda'r hyn maen nhw wedi ei wynebu yn ystod y pandemig.

Yn ôl Help for Heroes, mae staff y gwasanaeth iechyd yn wynebu heriau meddyliol tebyg i bobl o gefndir milwrol.

Mae canllaw hunan ofal, gafodd ei lunio'n wreiddiol ar gyfer milwyr oedd wedi bod trwy brofiad trawmatig neu wedi'u hanafu, bellach ar gael yn gyhoeddus ar y we er mwyn cefnogi gweithwyr iechyd.

Ers dechrau'r pandemig mae dros 100 o staff iechyd a gweithwyr gofal wedi marw ar ôl cael eu heintio gyda'r feirws yn y Deyrnas Unedig.