Peintio swastika ar garej teulu du yng Ngwynedd

Mae teulu o Benygroes yng Ngwynedd wedi disgrifio'r sioc o ddarganfod fod rhywun wedi peintio arwydd swastika ar ddrws eu garej .

Wrth siarad gyda BBC Cymru, dywedodd Margaret Ogunbanwo a'i mab Toda Ogunbanwo eu bod yn credu fod y teulu wedi ei dargedu am eu bod yn ddu.

Dywedodd Ms Ogunbanwo na fyddai'n glanhau'r symbol yn syth gan ei bod am i bobl weld yr hyn oedd wedi digwydd.