Her bersonol Dic y Rhedwr wedi siom gorfod gohirio Sialens

Mae cyn-brifathro a rhedwr profiadol o Geredigion yn ceisio cyflawni her o redeg mil o filltiroedd yn ystod y cyfnod clo, er mwyn codi arian ar gyfer Ysbyty Bronglais.

Mae Dic Evans - neu Dic y Rhedwr, fel mae llawer yn ei adnabod - yn 73 oed ac yn ceisio rhedeg dros ddeng milltir bob dydd er mwyn cwblhau'r her cyn diwedd y mis.

Mae eisoes wedi codi dros ddwywaith ei darged o £1,000 tuag at Uned Chemotherapi Ysbyty Bronglais, gan gyrraedd dros £2500 erbyn hyn.