'Côr pop-yp' Dyffryn Nantlle yn ymateb i ymosodiad hiliol
Mae'r gymuned yn Nyffryn Nantlle wedi ymateb i ymosodiad hiliol dros y penwythnos, wedi i graffiti ymddangos ar gartref teulu ym mhentref Penygroes.
Mae teulu Margaret Ogunbanwo wedi sôn am y sioc o ddarganfod y swastika.
Wrth siarad gyda BBC Cymru dros y penwythnos, dywedodd Ms Ogunbanwo ei bod yn credu fod y teulu wedi ei dargedu am eu bod yn ddu.