Cwrdd â'r ŵyr am y tro cynta' oherwydd y cyfyngiadau

Wrth i'r rheol pum milltir ddod i ben ddydd Llun, fe gafodd un dyn o Sir Conwy gwrdd â'r ŵyr am y tro cyntaf erioed.

Fe gafodd Harvey Wyn ei eni yn ystod y cyfnod clo, ac felly doedd ei deulu ddim wedi cael cwrdd ag o.

Wrth i'r rheolau gael eu llacio ddydd Llun, roedd camerâu BBC Cymru yno i dystio Harvey yn cael cwrdd â'i daid, Y Parchedig Gerwyn Roberts am y tro cyntaf.

Daw'r llacio cyfyngiadau wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru gofnodi na fu marwolaeth oherwydd y feirws yng Nghymru am 24 awr - y tro cyntaf iddyn nhw wneud hynny ers mis Mawrth.