Heriau ychwanegol i ofalwyr ifanc yn y cyfnod clo
Mae Evie, 11, yn un o ofalwyr ifanc Cymru ac mae'n edrych ar ôl ei brawd mawr Luke, sydd ag anghenion arbennig.
Ond mae'r cyfnod clo wedi dod â heriau newydd i deuluoedd fel eu rhai nhw, gyda gwasanaethau cymorth yn cael eu cyfyngu.
Mae elusen y Carers Trust wedi dweud bod angen mwy o gefnogaeth ar ofalwyr ifanc fel Evie yn ystod yr argyfwng.
Daw hyn yn dilyn arolwg sy'n awgrymu bod 29% o'r plant sy'n ofalwyr yn teimlo nad ydyn nhw wedi ymdopi yn dda, a 66% yn dweud eu bod nhw dan fwy o straen.