Cannoedd o geir wedi parcio ar ochr y ffordd yn Eryri

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhyddhau delweddau fideo dashcam yn dangos y prysurdeb yn Eryri dros y penwythnos.

Daeth hynny wedi i gannoedd o yrwyr gael eu dirwyo am barcio ar ochr y ffordd ger Pen-y-Pass - y maes parcio agosaf at gopa'r Wyddfa.