Cynnydd banciau bwyd yng Ngheredigion 'yn anhygoel'
Mae adfywio'r economi a delio â'r effaith ar dlodi yn fwy o her i Geredigion na salwch Covid-19 ei hun, yn ôl aelod o gabinet y sir.
Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan hefyd wedi rhybuddio mai'r ardaloedd tlotaf fydd yn dioddef waethaf yn sgil y pandemig.
Ers mis Mawrth mae banc bwyd Llanbed yn un o'r rheiny sydd wedi gweld cynnydd mawr yn y galw - dros 300%.
Adroddiad Mari Grug i Newyddion S4C.