'Pont y Glaw' gyda dros 400 o aelodau bandiau pres a chorau

Yn ystod yr wythnos AmGen, Cymru Fyw yw cartref Llwyfan Encore yr Eisteddfod.

Dewch yn ôl pob dydd i ddarganfod sesiynau amrywiol wedi eu cynhyrchu gan yr Eisteddfod Genedlaethol.

Gwaith arbennig Gareth Glyn ac Eleri Cwyfan yw Pont y Glaw - cyfanwaith sy'n cwmpasu'r bandiau pres ac ystod eang o gorau o ar draws Cymru, gan adlewyrchu teimladau'r cyfnod cloi ein cymunedau a chynnig nodyn o obaith i'r dyfodol. Defnyddir yr ymadrodd 'Pont y Glaw' am enfys mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru.

Tîm bychan sydd wedi bod wrth y llyw, Mari Lloyd Pritchard ac Aled Wyn Evans yn cydlynu, Nathan Williams yng ngofal y sain o stiwdio Band Biwmares, a Gary Pritchard ac Arwel Stephen wedi eu hymrwymo i ymuno â'r tîm ar gyfer y gwaith o olygu dros fil o ffeiliau, a'r cyfan o fwrdd y gegin a desgiau cartre' !

"Does dim amheuaeth fod hon wedi bod yn broses heriol o ran cyflawni'r dasg mewn cwta fis - ond mae hefyd wedi bod yn siwrne bwysig mewn sawl ffordd gyda nifer o gorau yn ymarfer yn ddigidol ac yn cymryd rhan mewn prosiect rhithiol am y tro cyntaf," meddai Mari.

"Mi fues i'n cynnal ymarferion Zoom gyda'r corau 'dros 60 oed' i gyd - wel, sôn am hwyl! I mi, roedd y sgwrs a oedd yn neidio o un sgwâr Zoom i'r llall, ac o un cornel o Gymru i'r llall, yn un o brif lwyddiannau'r prosiect. Dwi wedi crio a chwerthin wrth wrando a gweld ymdrech dros 400 o gynrychiolwyr yn morio canu neu'n chwarae offeryn ar eu pennau'u hunain - sydd wrth gwrs yn hollol groes i holl rinweddau bod yn aelod o deulu band neu gôr. Gan ddiolch i bawb am eu cyfraniad a'u gwaith caled."