'Ar ôl dwy flynedd gafon ni wybod be' oedd cyflwr Bedwyr'

Fe gymerodd hi ddwy flynedd i ddarganfod beth oedd y cyflyrau genetig prin oedd ar Bedwyr o Lanrwst, yn ôl ei mam, Nerys.

Nawr mae'n gobeithio y bydd prawf newydd sy'n gallu darllen côd DNA cyfan yn golygu na fydd rhieni eraill yng Nghymru yn gorfod mynd drwy'r un profiad gyda'u plant hwythau.