Dim Eisteddfod Genedlaethol yn ergyd i'r diwydiant llyfrau

A hithau'n ddechrau mis Awst, mi fydda' wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol fel arfer yn ffenest siop i'r diwydiant llyfrau.

Ond mae rhybudd bod colli gwerthiant rhaglen y dydd, y cyfansoddiadau a'r ddwy brif wobr yn ergyd o £100,000 i'r diwydiant.

Mae un o gyn-enillwyr y Fedal Ryddiaith, Manon Steffan Ros yn dweud bod gwerthiant ei chyfrol deirgwaith yn fwy oherwydd y sylw sy'n dod law yn llaw â'r Brifwyl.