'Tristwch oedd bod ni methu ymweld a bod nhw wedi'

Roedd hi'n "dristwch" i weld Dug a Duges Caergrawnt yn ymweld â chartref gofal yng Nghymru, yn ôl dyn sydd heb gael gweld ei dad yn y cartref ers fis.

Roedd y Tywysog William a'i wraig Catherine yng Nghaerdydd dydd Mercher, ac fe fuodd y ddau'n ymweld â chartref Shire Hall yn y ddinas.

Daw hynny ar ôl i Rhys ab Owen Thomas gael gwybod na fyddai modd iddo ymweld â'i dad yn y cartref tan ddydd Gwener - oherwydd bod gweithiwr yno wedi cael prawf Covid-19 positif.

Mae'r cartref wedi ymddiheuro i'r teulu am y mater.