Gwersylla anghyfreithlon: 'Ni angen rheoli ymwelwyr'
Mae trafferthion yn sgil yr hyn sy'n cael ei alw'n 'gwersylla gwyllt' yn creu cur pen i'r awdurdodau yn Sir Benfro.
Mae twf sylweddol yn nifer y bobl sy'n aros dros nos yn anghyfreithlon ym meysydd parcio yn y sir, gan achosi sawl problem yn cynnwys gadael sbwriel ar eu holau.
O ganlyniad mae'r cyngor yn cynnal patrolau yn gynnar y bore, gan ddosbarthu dirwyon o hyd at £70.
Ac mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro'n rhybuddio nad yw gwasanaethau nag amgylchedd bregus yr ardal yn gallu ymdopi.