Ffilmio eto dan gyfyngiadau i operâu sebon Cymru
Wedi misoedd ar stop, mae'r gwaith cynhyrchu wedi ailddechrau ar ddwy o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C - ond dydy popeth ddim yr un fath o bell ffordd.
Oherwydd yr angen i gadw pellter, mae Rownd a Rownd bellach yn defnyddio dau safle newydd, a dim ond gwerth pum munud o Pobol y Cwm sy'n cael ei gynhyrchu bob diwrnod ar hyn o bryd.
Adroddiad Ellis Roberts i Newyddion S4C.