Ysbyty Gwynedd yn paratoi am ail don bosib o Covid-19
Dros y misoedd diwethaf mae staff Ysbyty Gwynedd, fel gweithwyr iechyd ar hyd a lled Cymru, wedi bod yn hynod o brysur wrth geisio ymdopi gyda'r pandemig coronafeirws.
Bu'n rhaid addasu llawer o waith yr ysbyty, gyda gweithwyr yn addasu eu rôl er mwyn cynorthwyo yn yr ymdrechion i daclo'r haint.
Ac er ei bod hi wedi tawelu rhywfaint bellach o ran nifer yr achosion, mae pryder dros ail don bosib yn y gaeaf yn golygu bod paratoadau ar gyfer hynny eisoes ar y gweill.
Yn y cyfamser mae'r ysbyty'n sicrhau bod cymorth seicolegol ar gael i'r gweithwyr iechyd fel eu bod nhw'n barod i ymdopi os ydy pethau'n prysuro eto.