Haf Dan Glo: Stori Mali Elwy
Mae'r cyfnod clo wedi arwain at newid dramatig ym mywydau llawer o bobl ifanc - ac mae hyn yn arbennig o wir yn achos Mali Elwy o Lansannan yn Nyffryn Conwy.
Roedd y ferch 19 oed i fod i dderbyn trawsblaniad aren gan ei brawd Morgan ddydd Llun 24 Awst, ond bu'n rhaid canslo'r llawdriniaeth oherwydd argyfwng y coronafeirws.
Roedd y newyddion yn ergyd enfawr, nid yn unig i Mali ond i'w theulu hefyd.
"Roeddwn yn edrych ymlaen yn fawr at gael y llawdriniaeth.
"Roedd y trawsblaniad i fod i gael ei wneud ddiwedd mis Awst ond yn anffodus cafodd ei ganslo. Mae yna ansicrwydd o hyd.
"Gobeithio y gallaf ei gael erbyn diwedd y flwyddyn, ond wyddoch chi byth - gall pethau newid eto," meddai.
Fe gafodd Mali ddiagnosis o ganser pan oedd hi'n dair oed.
"Dywedodd fy mam fod y tiwmor maint torth yn fy aren chwith felly fe wnaethon nhw dynnu'r aren allan.
"Fel rheol, gall pobl oroesi gydag un aren ond yn fy achos i roedd gan yr aren dde wendid ar ôl y llawdriniaeth ac ers hynny rwyf wedi cael diagnosis o gyflwr o'r enw methiant arennol cronig."
Ers y cyfnod clo, mae Mali Elwy wedi bod yn cysgodi gyda'i theulu ar y fferm ger Llansannan.