Llifogydd a thirlithriadau wrth i Storm Francis daro

Mae gwyntoedd cryfion o hyd at 75mya a llifogydd difrifol wedi gadael cannoedd o dai heb drydan wrth i Storm Francis achosi trafferthion ledled y wlad.

Dywed Heddlu'r Gogledd fod Afon Ogwen wedi gorlifo a bod rhaid i ddwsinau o bobl adael eu tai yn ardaloedd Bethesda a Beddgelert.

Roedd yr heddlu, Timoedd Achub Mynydd a Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd yn rhan o'r ymdrechion dros nos.

Bu'n rhaid i tua 40 o bobl adael chalets a chartrefi ym Methesda, meddai'r gwasanaeth tân, cyn cael eu cymryd i'r ganolfan hamdden leol.

Cafodd pobl o bum tŷ eu hachub gyda chwch ym Meddgelert hefyd.

Dywed Traffig Cymru bod ffordd yr A5 yn parhau i fod ar gau rhwng Bethesda a Betws y Coed yn dilyn llifogydd a thirlithriad.