'Yr Alban a Gogledd Iwerddon ymhell o flaen Cymru'
Mae agweddau ac ymatebion gwahanol llywodraethau gwledydd unigol y DU ers dechrau'r pandemig wedi cael "effaith fawr" ar yr ymgyrch i greu Cymru annibynnol, yn ôl rhai arbenigwyr gwleidyddol.
Dywed mudiad YesCymru, sy'n ymgyrchu dros hunanlywodraeth, bod ei aelodaeth wedi treblu yn ystod y pum mis diwetha', wrth i bobl gymharu penderfyniadau llywodraethau Cymru a San Steffan ers dechrau'r argyfwng Covid-19.
Eto i gyd, mae 'na gefnogaeth hefyd i ddiddymu'r Senedd ac mae rhai'n ymgyrchu i gael gwared ar ddatganoli yn gyfan gwbl.
Yn ôl Yr Athro Richard Wyn Jones, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, mae'r twf diweddar mewn cefnogaeth i Gymru annibynnol yn rhyfeddol - ond mae ennill pleidlais i sicrhau hynny'n parhau'n dalcen caled.