'Lot o fwlio' o fewn adran Betsi Cadwaladr
Mae cyn-therapydd gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi disgrifio diwylliant o ofn a bwlio wrth weithio yno.
Dywedodd Bethan Mair Williams bod yna "lot o fwlio yn mynd ymlaen" yn adran iaith a lleferydd y bwrdd iechyd.
Cafodd bargyfreithiwr o Abertawe ei gomisiynu i ymchwilio i honiadau o amodau gwaith o fewn yr adran.
Ond er ei fod wedi paratoi adroddiad i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, mae'r bwrdd yn gwrthod cyhoeddi'r adroddiad.
Daw hyn lai na deufis wedi i'r comisiynydd gwybodaeth ddyfarnu y dylai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sydd dan fesurau arbennig ers dros bum mlynedd bellach, gyhoeddi adroddiad Holden i bryderon yn uned iechyd meddwl Hergest Ysbyty Gwynedd.
Maen nhw ar hyn o bryd yn apelio'r penderfyniad hwnnw.