Wylfa: 'Ergyd arall' neu gyfle am ddyfodol gwahanol?

Mae arweinydd Cyngor Môn wedi gofyn am gyfarfod gyda llywodraethau Cymru a'r DU wedi i gwmni Hitachi roi gwybod iddi nad ydyn nhw am fwrw ymlaen gyda chynllun adeiladu atomfa Wylfa Newydd.

Mae'r Cynghorydd Llinos Medi wedi cadarnhau wrth BBC Cymru ei bod wedi derbyn llythyr gan y cwmni sy'n cadarnhau eu bod yn tynnu'n ôl o'r cynllun.

Dywedodd bod cynllun Wylfa Newydd yn "lygedyn o obaith" am swyddi o ansawdd da ar yr ynys, ond ei bod yn sefyllfa "simsan" ers rhai misoedd.

Nawr mae angen cefnogi mentrau cymunedol a phobl Môn yn sgil y penderfyniad, yn ôl Robat Idris o grŵp Pobl Atal Wylfa B.