Tair strategaeth Dr Eilir Hughes i oresgyn Covid-19
Dr Eilir Hughes, meddyg teulu ym Mhen Llŷn, sy'n amlinellu ei dair strategaeth bosib ar gyfer goresgyn y pandemig Covid-19.
Ar hyn o bryd, meddai, mae llywodraethau Cymru a'r DU yn ceisio cadw niferoedd yn ddigon isel heb chwaith effeithio'n ormodol ar yr economi - strategaeth sy'n ceisio dilyn ffordd ganol ond sydd hefyd yn debygol o arwain at don ar ôl ton o'r feirws nes y bydd brechlyn ar gael.
Y ddwy strategaeth arall yw unai gwaredu'r feirws yn llwyr drwy gyfnod clo llymach ac hirach nag y cafwyd ym mis Mawrth, neu adael i ledaeniad rheoledig o'r feirws ddigwydd (herd immunity) drwy'r boblogaeth, ag eithrio pobl hŷn a bregus fyddai dal yn cael eu gwarchod.