Etholiad Arlywyddol yr UDA: 'Mae pobl ychydig yn nerfus'

Mae'r cloc yn tician ar etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau sy'n cael ei chynnal ar 3 Tachwedd.

Mae Donald Trump, ymgeisydd y Gweriniaethwyr, yn gobeithio am bedair blynedd arall yn y swydd tra bod ymgeisydd y Democratiaid, Joe Biden, cyn is-lywydd i Barack Obama, yn gobeithio ennill i greu newid yn y Tŷ Gwyn.

Geordan Burress o Cleveland, Ohio, ac Alison Hill sy'n byw yn Greenville, De Carolina, sy'n rhannu eu hargraffiadau nhw o'r teimladau yn eu cymuned a sut maen nhw'n meddwl fydd y bleidlais yn mynd.

Hefyd o ddiddordeb: