'Da ni'n mesur gwerth twristiaeth, ond dim yr effaith'

Mae'r sector twristiaeth yng Nghymru yn wynebu "dyddiau du iawn" gyda busnesau'n cau a gwestai'n gorfod cau eu drysau dros dro, medd Cynghrair Twristiaeth Cymru.

Mae'r gynghrair, sy'n cynrychioli miloedd o gwmnïau, yn dweud bod ail don o Covid-19 yn golygu fod gobeithion o wneud yn iawn am "fisoedd colledig" yn diflannu.

Un ardal sydd wedi profi'n wahanol yw Eryri, gyda ffigyrau Croeso Cymru'n awgrymu bod mwy o bobl yn bwriadu ymweld â'r Parc Cenedlaethol nag unman arall yng Nghymru dros y misoedd nesaf.

Ond dywedodd Helen Pye o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri bod hynny wedi arwain at heriau, a bod angen newid y ffordd ry'n ni'n trin twristiaeth er mwyn ei wneud yn fwy cynaliadwy.

Yn ôl Ms Pye rydyn ni'n euog o fesur gwerth twristiaeth yn unig, yn hytrach nag ystyried yr effeithiau negyddol hefyd.