Yr Almaenwr wnaeth ddysgu Cymraeg er mwyn dilyn Cymru
Roedd gan Klaus Nehaus o Düsseldorf reswm go arbennig dros ddysgu Cymraeg.
Ar ôl gweld yr Almaen yn trechu Cymru yn 1995 fe benderfynodd ddechrau cefnogi'r crysau cochion.
Ers 25 mlynedd mae wedi teithio o amgylch Ewrop gyda chefnogwyr Cymru. Mae wedi mynychu 53 o gemau rhyngwladol, gan ystyried buddugoliaeth Cymru yng Nghyprus yn 2015 fel y daith orau.
Fe wnaeth Klaus ddysgu Cymraeg drwy ddefnyddio'r cwrs Cymraeg ar y platfform Duolingo a gwasanaeth SaySomethingInWelsh, dolen allanol.
Fe gafodd Klaus sgwrs gyda Dylan Jones ar raglen Ar y Marc, Radio Cymru fore Sadwrn. Cliciwch yma neu gwyliwch y fideo uchod er mwyn clywed mwy o'i hanes.