Kat von Kaige: Profiad menyw yn y byd reslo

Mae Kat von Kaige, 28 oed o Ferthyr Tudful, yn un o nifer cynyddol o reslwyr benywaidd sydd wedi siarad am eu profiadau o fewn y byd reslo.

Mae Kat yn un o nifer o ferched sydd wedi ymuno â'r ymgyrch #SiaradAllan dros yr haf, ble fuodd nifer o fenywod yn rhannu eu profiadau personol am y byd reslo ar-lein.