'Perfformiad dewr, ond bydd y merched yn grac'

Bydd Merched Cymru'n "mor grac" ar ôl colli o 1-0 yn erbyn Norwy, yn ôl y cyn-gapten, Kath Morgan.

Dywedodd Morgan ar ôl y gêm ei bod hi'n gôl "di-angen" i'w hildio.

Mae'r canlyniad bellach yn golygu bod gan Ogledd Iwerddon y fantais yn y ras i orffen yn ail yng Ngrŵp C, o flaen Cymru.