Covid wedi 'trawsnewid bywyd meddyg teulu'n gyfan gwbl'

Mae meddygon teulu fel Dr Harri Pritchard o Amlwch wedi gorfod newid eu ffordd o weithio "yn gyfan gwbl" yn y misoedd ers i'r pandemig Covid-19 daro.

Gyda llawer o'u cyswllt â chleifion nawr yn digwydd dros y ffôn, a mesurau ymbellhau llymach o fewn y meddygfeydd, mae cleifion yn derbyn eu gofal mewn ffordd wahanol hefyd.

Ond yn ôl Dr Pritchard mae hynny wedi golygu anawsterau ychwanegol, yn enwedig wrth asesu cleifion, ac mae'n cyfaddef bod y newidiadau wedi bod yn "anodd".