Merthyr Tudful â chyfradd uchaf Covid-19 y DU

Mae ffigyrau newydd yn dangos mai sir Merthyr Tudful sydd â'r gyfradd uchaf o achosion Covid-19 fesul poblogaeth.

I bob 100,000 o'r boblogaeth, mae 741 achos o'r feirws yn y sir - y gyfradd uchaf yn y DU.

Mae'r cyfraddau hefyd yn uchel yn Rhondda Cynon Taf, 554, a Blaenau Gwent, 544.

Dyma adroddiad Gwyn Loader o Ferthyr Tudful ar Newyddion nos Fercher.