£385,000 am hen dŷ cyngor ym Mhen Llŷn

Mae pobl ardaloedd Nefyn a Morfa Nefyn "yn poeni fod ein cymunedau ni yn mynd fel yr Abersoch nesa'", meddai cynghorydd o Wynedd.

Mae Rhys Tudur am i bawb sy'n prynu tŷ yng Nghymru dderbyn pecyn ymwybyddiaeth iaith wrth fynd drwy'r broses.

Soniodd wrth Cymru Fyw am y sefyllfa "drist ofnadwy" yn Nefyn wrth i bobl leol fethu fforddio prynu tai.