'Anhygoel': Cymru'n ennill Cwpan y Byd dartiau

Mae Cymru wedi ennill Cwpan Dartiau'r Byd am y tro cyntaf ar ôl trechu'r ffefrynnau, Lloegr yn Awstria nos Sul.

Llwyddodd Gerwyn Price a Jonny Clayton i drechu Michael Smith a Rob Cross o 3-0 i ennill y rownd derfynol.

Dywedodd Clayton ei fod yn "bleser" cael chwarae ar yr un tîm â Price, a bod cipio'r fuddugoliaeth yn "anhygoel".