Covid hir: 'Fi methu anadlu - does dim egni 'da fi'
Mae Leanne Lewis o Bencoed yn parhau i ddioddef o effeithiau Covid hir wythnosau ers iddi ddal yr haint.
Roedd hi'n gweithio fel nyrs yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg pan ddaliodd hi'r feirws, a hynny yng nghanol cyfnod pan oedd achosion yn yr ardal yn cynyddu.
Mae hi bellach yn galw am fwy o gefnogaeth i bobl fel hi sydd yn parhau i geisio ymdopi ag effaith y salwch.