Covid ac Unigrwydd: 'Falle byddai wythnos,11 dydd, ble fi ddim wedi gadael y fflat o gwbl'

Mae Sioned Evans o Aberystwyth wedi bod yn byw ar ben ei hun trwy gydol y pandemig.

Heb deulu na llawer o ffrindiau o'i chwmpas, mae wedi bod mewn lle tywyll ar adegau.

Yn dioddef o gyflyrau iechyd meddyliol a chorfforol ers ei harddegau pan fu'n byw mewn cartref gofal, dydy Sioned ddim yn gallu gadael y tŷ yn hawdd.

Dywedodd Sioned, sy'n 29, bod Covid-19 wedi gwneud yr unigrwydd "yn waeth".

Er hyn, mae Sioned wedi bod yn mynychu digwyddiadau ar-lein, ac yn dweud bod hwn wedi codi ei hysbryd.