Rhybudd am effaith Brexit ar Borthladd Caergybi
Bydd "anrhefn llwyr" ym Mhorthladd Caergybi pan ddaw cyfnod pontio Brexit i ben, yn ôl Cymdeithas Cludo Nwyddau Ffyrdd Iwerddon (IRHA).
Dyma'r ail borthladd mwyaf o'i fath yn y DU ar ôl Dover, gyda 1,200 o lorïau a threlars yn defnyddio'r gwasanaeth pob dydd.
Mae Llywodraeth y DU yn mynnu bod cynlluniau ar droed i osgoi trafferthion er gwaethaf rhybudd yr IRHA.
Mae rhai yn lleol yn dal yn bryderus y bydd Caergybi'n diodde' tra bod swyddi'n symud i rannau eraill o Brydain.