'Roedden ni'n pryderu fod hwn am droi'n dŷ haf'

Mae'r fenter gymdeithasol sydd yn rhedeg Tafarn y Plu yn Llanystumdwy wedi prynu hen gapel yn y pentref fel cam arall tuag at geisio cadw asedau lleol er budd y gymuned.

Gyda phryder cynyddol yng Ngwynedd am effaith pandemig Covid-19 ar y galw am dai haf, fe benderfynodd y criw nad oedden nhw am weld yr un peth yn digwydd i'r adeilad diweddaraf oedd ar werth.

Fe aethon nhw ati felly i brynu Capel Cariad, sydd drws nesaf i'w tafarn, a'r bwriad nawr yw ei redeg fel llety gwyliau fel bod mwy o'r arian sy'n cael ei wario gan dwristiaid yn aros o fewn y gymuned.