'Diwrnod cyffrous' i un o'r cyntaf i gael brechlyn Covid
Mae brechlyn Covid-19 wedi cael ei roi i bobl am y tro cyntaf yng Nghymru.
Fe fydd brechlyn Pfizer/BioNTech yn cael ei roi yn gyntaf i weithwyr iechyd wrth i nifer yr achosion positif yng Nghymru barhau i godi.
Ymhlith un o'r rhai cyntaf i gael ei frechu mewn canolfan yng Nghwmbrân oedd y meddyg teulu Dr Alun Edwards sy'n dweud fod y datblygiad yn un cyffrous.