Beth yw pwysigrwydd awyru wrth daclo Covid-19?
Mae golchi dwylo, gwisgo mwgwd a chadw pellter cymdeithasol yn bethau sydd bellach yn dod fel ail natur i lawer ohonom wrth geisio taclo Covid-19.
Ond yn ôl y meddyg teulu Dr Eilir Hughes mae rhywbeth syml arall y gallwn ni ei wneud er mwyn ceisio osgoi dal yr haint - awyru ein hystafelloedd.
Gyda mwy o bobl yn treulio misoedd y gaeaf dan do - a rhai'n debygol o groesawu ymwelwyr neu eraill o'r tu allan i mewn i'w cartref dros gyfnod y Nadolig - mae'r cymryd camau i leihau'r risg yn bwysicach nag erioed, meddai.
Gall hyn fod yn rhywbeth mor syml ag agor ffenestri neu ddrysau am gyfnod byr, er mwyn sicrhau bod aer ffres yn dod i mewn ac atal y feirws rhag cronni yn yr aer os ydy rhywun yn ei gario.