Rhodri Gomer Davies: 'Un cyfergyd yn aros yn y cof'

Mae nifer o gyn-chwaraewyr rygbi wedi ymuno mewn achos cyfreithiol yn erbyn awdurdodau'r gêm oherwydd methiant honedig i'w hamddiffyn rhag y risgiau sy'n cael eu hachosi gan anafiadau i'r pen.

Mae'r cyn-chwaraewr proffesiynol, Rhodri Gomer Davies yn ffrindiau gydag ambell un sy'n rhan o'r achos.

Er nad ydy ef ei hun yn dioddef fel rhai o'i gyfoedion, mae'n siarad am ei brofiadau ef â chyfergydion, a pham bod mwy angen ei wneud eto i warchod chwaraewyr.