'Dydw i heb chwarae pêl-fasged ers Chwefror'

Mae athletwyr ifanc yn Aberystwyth yn dweud ei bod hi'n annheg eu bod nhw wedi methu defnyddio canolfannau hamdden a chyfleusterau chwaraeon awyr agored yn ystod y pandemig.

Yn wahanol i siroedd eraill Cymru, mae cyfleusterau dan do ac awyr agored yng Ngheredigion wedi aros ar gau - ar wahân i ychydig wythnosau ym mis Medi - fel rhan o fesurau rheoli Covid-19.

Mae pobl ifanc - gan gynnwys Kai Hamilton Frisby - yn meddwl bod y diffyg cyfle i ymarfer yn golygu eu bod o dan anfantais o gymharu â phobl mewn siroedd eraill.

Dywed Cyngor Ceredigion nad oedd cadw'r cyfleusterau ar gau yn benderfyniad hawdd, a'i fod yn "fesur rhagofalus".