Colli babi: 'Profiad anoddaf fy mywyd i'
Pan gollodd Rhys Thomas a'i wraig Sarah eu mab Arwel yn ystod beichiogrwydd eleni, roedd yn brofiad digon anodd i'r teulu yn barod.
Ond pan ddaeth hi at y gwasanaethau cwnsela i'w helpu nhw drwy'r galar, roedd Rhys yn teimlo'n rhwystredig nad oedd ar gael drwy'r Gymraeg.
Mae'n bwysig, meddai, bod pobl yn gallu siarad yn eu mamiaith pan mae'n dod at drafod problemau dwys ac agos at y galon.
Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw'n parhau gyda'r gwaith o "ffurfio fframwaith profedigaeth cenedlaethol", gan gynnwys anghenion pobl mewn profedigaeth, yn y Gymraeg.