Anghysondeb rheolau Covid-19 mewn archfarchnadoedd

Mae ymchwiliad gan raglen Newyddion S4C wedi datgelu anghysondeb yn y ffordd y mae rhai archfarchnadoedd yn gweithredu rheolau Covid-19 ledled Cymru.

Fe wnaeth newyddiadurwyr y rhaglen roi archfarchnadoedd ar brawf ar ôl i'r gweinidog iechyd Vaughan Gething ddweud fod "cyfrifoldeb ar yr archfarchnadoedd i ufuddhau i'r rheolau."

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi mai dim ond eitemau hanfodol y caniateir eu gwerthu ar hyn o bryd, a dan reolau'r cyfnod clo.

Ond fe wnaeth newyddiadurwur Newyddion S4C ddarganfod nad oedd llawer o fanwerthwyr yn cadw at y rheolau hyn.

Gwyn Loader fu'n ymchwilio i Newyddion S4C.