Gofalwr di-dâl: 'Ni wedi blino'n rhacs, yn llwyr'
Mae pryder ymysg gofalwyr di-dâl na fydd yr awdurdodau'n gwybod pwy ydyn nhw pan fydd eu tro i gael brechiad Covid-19, yn ôl elusen.
Yn ôl Carers Wales mae sawl gofalwr yn poeni am y fath sefyllfa os nad ydyn nhw'n derbyn lwfans gofalwyr nac yn defnyddio gwasanaethau gwirfoddol neu statudol.
Un o'r 370,000 o bobl sy'n gofalu'n ddi-dâl yng Nghymru yw Ceri Higgins o Don-teg, fu'n siarad ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.